Os gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif:
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif ParentPay.
- Dewiswch Gosodiadau Proffil > Enw Defnyddiwr.
-
Dewiswch Newid enw defnyddiwr a dilynwch y canllawiau ar y sgrin.
-
Rhowch eich cyfrinair eto a rhowch eich enw defnyddiwr newydd.
NODER: Rhaid i hwn fod yn gyfeiriad e-bost dilys y mae gennych fynediad iddo.
- Dewiswch Anfonwch ddilysiad.
- Anfonir e-bost atoch yn cynnwys dolen y mae'n rhaid i chi ei defnyddio i ddilysu’r cyfeiriad.
- Ar ôl ei ddilysu, gallwch ddefnyddio'ch Enw Defnyddiwr newydd i fewngofnodi i'ch cyfrif.
Os na allwch fewngofnodi i'ch cyfrif:
Bydd angen i chi gysylltu â thîm gweinyddu ysgol eich plentyn i ofyn iddynt newid eich enw defnyddiwr. Mae angen y cam dilysu ysgol hwn i ddiogelu eich cyfrif rhag defnydd amhriodol. Byddant yn gwirio eich statws fel rhiant neu ofalwr plentyn yn eu hysgol ac yna'n cysylltu â ni i ofyn am y newid.
Ar ôl ei gwblhau, byddwn yn hysbysu'r ysgol bod y newid wedi'i wneud a byddant yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi y gallwch nawr fewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr newydd (bydd y cyfrinair yn aros yr un fath). Gallwch nawr ailosod eich cyfrinair os oes angen gan ddefnyddio'r broses arferol.
NODER: Dylech nawr fanteisio ar y cyfle i nodi manylion adfer eich Cyfrif fel yr eglurir yma.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.