Sut i dynnu arian o'ch Cyfrif

Mae eich Cyfrif Rhiant yn eich galluogi i gadw balans yn ParentPay sy'n cyflymu'r broses o wneud taliadau am eitemau fel cinio neu deithiau.

Efallai y bydd adegau pan fydd angen tynnu arian o'ch Cyfrif Rhiant, er enghraifft pan gaiff arian am daith ddrud ei ad-dalu, neu pan nad oes gennych blentyn yn mynd ysgol sy’n gweithredu system ParentPay mwyach.

NODER: Nid yw’r broses hon ond yn caniatáu tynnu arian sydd eisoes yn eich Cyfrif Rhiant. Mae angen i’r ysgol ad-dalu taliadau cinio neu daliadau taith i'ch Cyfrif Rhiant cyn y gellir ei dynnu allan.

 

Tynnu arian gan ddefnyddio dyfais symudol

  1. Ewch i parentpay.com a mewngofnodi i'ch cyfrif ParentPay
  2. Dewiswch yr eicon arian papur
    mobile-2-1.png
  3. Dewiswch Tynnu arian
    mobile-3.png
  4. Rhowch y swm sydd i'w dynnu. Gall hyn fod yn lleiafswm o 5c, ac uchafswm o'r cyfanswm yn eich Cyfrif Rhiant

    NODER: Gellir newid nifer y troeon y gellir tynnu arian ar adegau i gynorthwyo talwyr i allu tynnu arian a ddyrannwyd.
    mobile-4.png

  5. Dewiswch Tynnu arian
    mobile-5.png
  6. Cadarnhewch fod y manylion yn gywir a chliciwch Tynnu arian
  7. Dangosir cadarnhad o’r swm a dynnwyd.
    mobile-6.png

 

Tynnu arian gan ddefnyddio cyfrifiadur desg / gliniadur

  1. Ewch i parentpay.com a mewngofnodi i'ch cyfrif ParentPay
  2. Ewch i Cyfrif Rhiant
    withdraw-1.png
  3. Yna bydd eich datganiad yn cael ei arddangos
  4. Dewiswch Tynnu ôl o dan y datganiad
    withdraw-2.png
  5. Rhowch y swm sydd i'w dynnu. Gall fod yn lleiafswm o 5p, ac uchafswm o'r cyfanswm yn eich Cyfrif Rhiant
    withdraw-3.png
  6. Dewiswch Tynnu arian
  7. Cadarnhewch eich bod eisiau tynnu arian
  8. Bydd cadarnhad o'r swm a dynnwyd yn cael ei arddangos.
    withdraw-4.png

Nodyn: Gall yr arian gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i ymddangos ar eich cerdyn/cyfrif banc a nodir ar y sgrin tynnu arian

Os bydd tynnu arian yn golygu bod symiau'n cael eu credydu i fwy nag un cerdyn/cyfrif banc, bydd yr hysbysiad tynnu arian yn dangos beth fydd yn cael ei ad-dalu i ba gerdyn.

 

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
44 allan o 339 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.