Trosglwyddiad Banc ac Ychwanegu Arian yn Awtomatig

Beth yw Trosglwyddiad Banc?

Mae Trosglwyddiad Banc yn eich galluogi i dalu am unrhyw eitem ysgol yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc a chaiff ei warantu gan y gwasanaeth Debyd Uniongyrchol. Nid oes angen ychwanegu na storio manylion cerdyn debyd neu gredyd yn ParentPay ond mae angen i fandad Debyd Uniongyrchol gael ei awdurdodi gan eich banc cyn y bydd modd casglu taliadau (hyd at 3 diwrnod gwaith fel arfer neu 6 diwrnod gwaith ar gyfer ei greu ar y cychwyn).

Sut mae’n gweithio?

Pan gaiff taliad ei wneud gan ddefnyddio Trosglwyddiad Banc, caiff y taliad ei swp-brosesu. Mae hyn yn golygu bod modd cyfuno unrhyw daliadau dilynol a byddant yn dangos ar eich cyfriflen banc fel un cofnod ar gyfer y swm cyfunol. Caiff y taliadau eu cyflwyno i’w prosesu bob nos. Bydd taliadau a wneir ar ôl diwedd y diwrnod gwaith yn cael eu prosesu’r diwrnod canlynol.

 

NODER: Gall y broses glirio y mae’r banciau’n ei chynnal gymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’w chyflawni. Bydd taliadau’n cael eu prosesu yn syth yn ParentPay ac oni bai eu bod yn methu, byddant yn gweithredu’r un fath ag unrhyw ddull talu arall.

 

Sut ydw i’n creu Trosglwyddiad Banc?

Ar ôl mewngofnodi i ParentPay fel talwr, mae’r tri lleoliad canlynol yn rhoi mynediad at y broses i greu trosglwyddiad banc:

  • Y dewis Trosglwyddiad Banc ar y tab Cyfrif Rhieni
  • Tudalen Trosolwg yr Eitem Dalu
  • Y Fasged (wrth wneud taliad)

Bydd y wefan yn eich tywys drwy bob cam ar ôl hynny i greu eich Trosglwyddiad Banc.

 

Taliad Trosglwyddiad Banc wedi methu. Beth wnaf i?

Pe bai ymgais i dalu’n methu, er enghraifft oherwydd diffyg arian yn y cyfrif banc, cewch wybod drwy e-bost a byddwch yn cael neges rybudd y tro nesaf y byddwch yn ceisio mewngofnodi i ParentPay. Bydd eich ysgol hefyd yn cael gwybod am y methiant ac efallai y byddant yn cysylltu â chi i drefnu taliad arall.

 

Nid yw’n bosibl i ParentPay na’ch ysgol ddweud wrthych pam mae’r taliad wedi methu, felly bydd angen i chi gysylltu â’ch banc i ganfod pam y methodd.

NODER: Ar ôl i un taliad fethu wrth ddefnyddio’r cyfleuster hwn, bydd yn cael ei wneud yn anweithredol ar gyfer eich cyfrif ac ni fyddwch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth Trosglwyddiad Banc mwyach. Ar gyfer pob taliad yn y dyfodol bydd angen i chi ddefnyddio dull talu arall.

Nid yw arian Trosglwyddiad Banc wedi’i gymryd. Beth wnaf i?

Nid oes modd cymryd arian o’ch cyfrif banc nes bydd eich mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Trosglwyddiad Banc wedi’i greu’n llwyddiannus ac wedi ei awdurdodi gan eich banc. Os ydych yn credu bod problem ynghylch hyn, neu os ydych yn credu y gallech fod wedi sefydlu’r mandad yn anghywir neu’n anfwriadol, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch banc er mwyn ei ddatrys. Noder y gall gymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i greu’r mandad a 3 diwrnod gwaith arall i’r taliad gael ei gyflawni (hyd at 6 diwrnod gwaith).

 

A gaf ddileu neu analluogi fy nghyfleuster Trosglwyddiad Banc ar ôl ei greu?

Mae modd analluogi trosglwyddiad banc ar unrhyw adeg (ac eithrio yn ystod y cyfnod y mae eich mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Trosglwyddiad Banc yn cael ei brosesu gan eich banc ac rydych eisoes wedi gwneud taliad yn ei erbyn).

A gaf barhau i dalu gan ddefnyddio dulliau eraill fel Cyfrif Rhiant, Desg Dalu VISA neu PayPoint?

Mae’r holl ddewisiadau talu eraill yn parhau i fod ar gael.

 

A gaf newid y cyfrif banc sy’n cael ei ddefnyddio gan Drosglwyddiad Banc?

Os byddwch yn newid eich cyfrif banc gan ddefnyddio’r gwasanaeth newid (a ddarperir gan y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu), bydd eich mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Trosglwyddiad Banc yn cael ei newid yn awtomatig fel rhan o’r gwasanaeth hwnnw.

 

Os ydych eisiau newid y cyfrif banc sy’n cael ei ddefnyddio gan Drosglwyddiad Banceich hun, bydd angen dileu’r mandad Debyd Uniongyrchol ar gyfer Trosglwyddiad Banc presennol ac yna ychwanegu un newydd gan ddefnyddio manylion y cyfrif newydd. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’ch Cyfrif Talwr yn ParentPay a defnyddio’r dewisiadau yn Cyfrif Rhiant > Trosglwyddiad Banc

 

A gaf sefydlu mwy nag un Trosglwyddiad Banc?

Dim ond un Trosglwyddiad Banc y mae modd ei greu fesul cyfrif. Os oes gan blentyn ddau dalwr yn gysylltiedig â’i gyfrif, gall y ddau dalwr greu eu mandadau Debyd Uniongyrchol ar gyfer Trosglwyddiad Banc eu hunain.

 

Ychwanegu Arian yn Awtomatig

 

Beth yw Ychwanegu Arian yn Awtomatig?

Fel rhan o’r cyfleuster Trosglwyddiad Banc, mae Ychwanegu Arian yn Awtomatig yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr i sicrhau bod balans prydau ysgol eu plentyn bob amser mewn credyd. Mae’n gwneud hynny drwy ganiatáu i chi osod trothwy balans sy’n credydu balans prydau eich plentyn yn awtomatig gan swm penodol (y mae modd i chi ei ddewis) pan aiff yn is na hynny, gan ddefnyddio taliad Trosglwyddiad Balans.

Er mwyn defnyddio Ychwanegu Arian yn Awtomatig, mae’n ofynnol i chi greu’r cyfleuster Trosglwyddiad Banc ar eich cyfrif. Cyn gynted ag y bydd hyn wedi’i awdurdodi a’i gwblhau gan eich banc, byddwch yn gallu defnyddio’r cyfleuster Ychwanegu Arian yn Awtomatig.

 

Pa mor aml y caiff Ychwanegu Arian yn Awtomatig ei gadarnhau/diweddaru?

Caiff balansau eu cadarnhau unwaith y dydd (rhwng 1800 a 1900 GMT ar hyn o bryd, er y gall amseroedd amrywio). Os yw’r balansau cysylltiedig wedi gostwng yn is na’r trothwy taliad yr ydych wedi’i greu, bydd y swm yr ydych chi wedi’i ddewis yn cael ei gymryd i ychwanegu at y balans.

 

Ar gyfer beth y mae modd ei ddefnyddio?

Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer gwasanaethau prydau ysgol nad oes modd eu harchebu y mae Ychwanegu Arian yn Awtomatig ar gael.

 

NODER: Nid yw Ychwanegu Arian yn Awtomatig yn gweithredu yn ystod cyfnodau gwyliau (wedi’u pennu gan ddyddiadau tymhorau eich ysgol neu’ch sefydliad).

 

NODER: Nid oes angen negeseuon rhybuddion balansau isel nawr ar gyfer balansau y mae arian yn cael ei ychwanegu atynt yn awtomatig ac felly maent wedi’u hanalluogi ar gyfer yr eitem dalu honno.

 

A gaf i oedi neu analluogi Ychwanegu Arian yn Awtomatig?

Cewch oedi neu ganslo eich amserlen Ychwanegu Arian yn Awtomatig unrhyw bryd.

 

A oes modd creu talwyr eraill ar gyfer Ychwanegu Arian yn Awtomatig ar gyfer yr un disgybl?

Dim ond un cyfleuster Ychwanegu Arian yn Awtomatig y mae modd ei greu fesul disgybl. Ar ôl i’r cyntaf gael ei greu, bydd y nodwedd wedi’i hanalluogi yn erbyn eitemau talu cysylltiedig mewn cyfrifon cysylltiedig eraill.

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
57 allan o 260 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.