Sut i wneud cais am ad-daliad

Wrth wneud taliad ar-lein i ysgol neu glwb, anfonir yr arian o’ch cyfrif chi i'w cyfrif banc nhw, drwy ParentPay. I drefnu ad-daliad, mae angen i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r ysgol neu'r clwb i ofyn iddyn nhw ddychwelyd yr arian i'ch Cyfrif Rhiant, lle bydd ar gael ar unwaith i'w ail-ddyrannu neu i’w dynnu allan.

NODER: Os oedd y taliad i drydydd parti drwy'r ysgol, er enghraifft arlwywyr prydau bwyd, efallai y cewch eich cyfeirio at y darparwr hwnnw i drefnu'r ad-daliad.

Os ydych wedi gwneud taliad ag arian parod/siec/taleb/PayPoint, bydd angen i'ch ysgol brosesu'r cais â llaw gan na fydd taliad electronig ar gyfer ad-daliad.

Fel arall, os oes angen SMS neu neges destun ad-daliad balans arnoch ar gyfer y gwasanaeth hysbysu ParentPay, e-bostiwch: parent-support@parentpay.com

 

Oedd yr erthygl yma o gymorth?
110 allan o 580 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.