Sut i ychwanegu credyd at Gyfrif Rhiant, a’i ddefnyddio

Mae ParentPay yn darparu mynediad i’r Cyfrif Rhiant er mwyn caniatáu taliadau cyflymach tuag at deithiau, prydau ysgol, clybiau, ac unrhyw beth arall y gallai ysgolion gasglu arian ar ei gyfer. Gallwch ychwanegu unrhyw swm o arian at eich Cyfrif Rhiant a’i ddefnyddio i fynd at y ddesg dalu ac i dalu’n gyflym am eitemau a ychwanegir at system ParentPay gan yr ysgol.

Ychwanegu credyd at eich Cyfrif Rhiant

  1. Ewch i parentpay.com a mewngofnodi i’ch cyfrif
  2. Dewiswch Creu Cyfrif Rhiant (Os oes credyd sydd eisoes wedi ei ychwanegu at y Cyfrif Rhiant, bydd hyn yn dweud Ychwanegu Credyd at Gyfrif Rhiant)

mceclip0.png

  1. Dewiswch un o’r symiau a bennwyd ymlaen llaw, neu rhowch y swm yn y blwch swm Arall i ychwanegu at eich cyfrif
    mceclip1.png
  2. Dewiswch sut i dalu trwy ddewis Desg Dalu Visa neu Dull talu arall
  3. Cewch gadarnhad o lwyddiant, a bydd derbynneb yn cael ei hanfon atoch mewn e-bost

Gwneud taliad gan ddefnyddio credyd Cyfrif Rhiant 

  1. Ewch yn ôl at yr hafan, a dewiswch un o’r canlynol:
    1. Talu am brydau bwyd<enw plentyn=””> – a leolir islaw enw’r plentyn yn y teils disgyblion yng nghanol y dudalen. Ni fydd hyn ond yn rhoi’r dewis o dalu am brydau ysgol ar gyfer un
    2. Talu am eitemau eraill – a leolir islaw’r dewis ar gyfer talu am brydau bwyd yn y teils disgyblion yng nghanol y dudalen. Dim ond manylion unrhyw eitemau a neilltuir ar gyfer y plentyn hwn y bydd hwn yn eu rhoi.
    3. Eitemau taliadau gweithredol – ar gyfrifiaduron, fe’u lleolir yn y ddewislen ar ochr chwith y dudalen. Ar ddyfeisiau symudol, gellir cael mynediad at hwn drwy ddewis yr eicon dewislen yng nghornel chwith uchaf y dudalen. Bydd hon yn rhestru’r holl eitemau i’w talu amdanynt a neilltuir i unrhyw blant neu aelodau staff sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif
  2. Dewiswch Gweld gyferbyn â’r eitem y mae angen talu amdani
  3. Rhowch y swm i’w dalu, nifer yr eitemau sydd eu hangen, neu unrhyw wybodaeth arall y gofynnir amdani
  4. Dewiswch Talu â Chyfrif Rhiant

    Noder
    : Os nad oes digon o gredyd yn eich Cyfrif Rhiant i dalu am gost yr eitem, gofynnir i chi ychwanegu’r eitem at eich basged
  1. Bydd hysbysiad o lwyddiant yn ymddangos ar frig y sgrin sy’n cynnwys eich balans Cyfrif Rhieni mwyaf diweddar, a bydd derbynneb yn cael ei hanfon atoch mewn e-bost.
Oedd yr erthygl yma o gymorth?
17 allan o 84 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.