Sut i greu rhybuddion e-bost neu neges destun

Gall fod yn anodd cadw llygad ar falansau a thaliadau. Mae ParentPay yn rhoi cyfle i Dalwyr greu rhybuddion e-bost neu neges destun.

Dim ond os oes gennych chi gredyd yn eich balans neges destun y mae modd cael rhybuddion neges destun. Caiff taliadau am rybuddion testun eu tynnu o’r balans neges destun bob tro y bydd neges destun yn cael ei hanfon. Codir 6c yr un am negeseuon testun. Ni chodir tâl am rybuddion e-bost. 

NODER: Dim ond i rifau ffonau symudol wedi’u dilysu y bydd rhybuddion neges destun yn cael eu hanfon. Dim ond i’r cyfeiriad e-bost sy’n cael ei ddefnyddio fel eich enw defnyddiwr y bydd rhybuddion e-bost yn cael eu hanfon.

Creu rhybuddion

  1. Yn eich cyfrif ParentPay, ewch i Cyfathrebu > Gosodiadau rhybuddion.
    mceclip0.png
  2. O’r rhestr o rybuddion y mae modd eu creu, dewiswch pa rybuddion yr hoffech eu cael, a pha un yr ydych eisiau eu cael drwy e-bost neu drwy neges destun (Codir 6c yr un am rybuddion neges destun).
  3. Dewiswch Cadw.

    NODER: Nid yw rhybuddion balans ar gael ym mhob ysgol. Os nad yw cynllun ParentPay eich ysgol yn cynnal rhybuddion balans, ni fyddwch yn cael y dewis i’w creu. Cewch wybod a allwch greu rhybuddion balans ar frig sgrin gosodiadau Rhybuddion.

Os ydych wedi dewis cael rhybuddion testun, bydd angen i chi nawr ychwanegu at eich balans negeseuon testun.

  1. Dewiswch y ddolen Ychwanegu Credyd at eich balans negeseuon testun.mceclip5.png
  2. Dewiswch Ychwanegu Credyd nawr.mceclip6.png
  3. Rhowch y swm i’w ychwanegu at eich balans (Lleiafswm £2.40 / Mwyafswm £9.00) a gallwch naill ai ddewis Ychwanegu at y fasged neu gallwch dalu drwy Trosglwyddiad Banc os ydych wedi galluogi’r nodwedd hon.
    mceclip7.png
  4. Os ydych chi wedi dewis Ychwanegu at y fasged, dewiswch eicon y fasged yng nghornel dde uchaf y sgrin i adolygu’r taliad. Yna cewch y dewis i dalu drwy gredyd Cyfrif Rhiant, Trosglwyddiad Banc, Desg dalu Visa neu Dull talu.mceclip8.png

    NODER: Os oes unrhyw gredyd yn y Cyfrif Rhiant, defnyddir hwn i dalu am yr eitemau. Os yw cyfanswm yr eitemau yn fwy na balans y Cyfrif Rhiant, gellir talu’r gwahaniaeth drwy ddulliau eraill.

  5. Cwblhewch y broses dalu. Ar ôl i’r taliad gael ei gwblhau, fe welwch neges yn cadarnhau hyn.

Rhybuddion balans

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn caniatáu i dalwyr osod  trothwy balans ar gyfer eitemau sy’n gysylltiedig â balansau, fel prydau ysgol,    neu glybiau ar ôl ysgol. Gallwch ddewis cael rhybuddion e-bost neu neges destun pan fydd y balans yn mynd yn is na’r trothwy sydd wedi’i ddewis. Gellir gosod trothwyon ar gyfer pob eitem sy’n gysylltiedig â balans ac yn gysylltiedig â phob plentyn sydd yn gysylltiedig â’ch cyfrif ParentPay.  

Dim mwy nag un rhybudd fesul eitem a fesul plentyn bob 2 ddiwrnod ar ôl i’r rhybuddbalans gyrraedd y trothwy.

mceclip1.png

Rhybuddion eitemau newydd

Dewiswch gael rhybuddion pan fydd eich plentyn yn cael ei ychwanegu at daith neu pan fo eitem newydd i’w thalu. Mae modd creu rhybuddion yn unigol ar gyfer pob plentynsy’n gysylltiedig â’ch cyfrif ParentPay.  
Dim mwy nag un rhybudd y dydd ar gyfer bob plentyn.

mceclip2.png

Rhybuddion talu – Sieciau ac arian parod

Dewiswch gael rhybudd bob tro y bydd yr ysgol yn cofnodi taliadau siec neu arian parod â llaw ar gyfer eich plentyn.

mceclip3.png

Rhybuddion talu – PayPoint

Dewiswch gael rhybudd bob tro y bydd taliad PayPoint yn cael ei gofnodi yn erbyn cyfrif eich plentyn.

mceclip4.png

Rhybuddion neges

Dewiswch gael rhybudd neges destun bob tro y bydd yr ysgol yn anfon e-bost atoch drwy’r system ParentPay.
Oedd yr erthygl yma o gymorth?
14 allan o 35 wedi gweld hyn yn ddefnyddiol

Sylwadau

0 sylw

Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.