Os oes gennych fwy nag un Cyfrif Rhiant, gallwch eu cyfuno'n un cyfrif sy'n cynnwys hyd at 15 o bobl gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau isod.
NODER: Dim ond Cyfrifon Rhiant sy’n bosibl eu huno - nid yw'n bosibl uno Cyfrifon Athro na chyfrifon Rheolwr.
Cyn i chi ddechrau:
- Y prif gyfrif fel arfer yw'r un sydd â'r cyfeiriad e-bost/enw defnyddiwr yr hoffech ei gadw.
- Y cyfrif eilaidd yw'r cyfrif arall a gaiff ei ddileu ar ôl cwblhau'r uno. Mae’n RHAID iddo fod â balans Cyfrif Rhiant o £0.00. Os nad yw'r balans yn sero, mae’n rhaid i chi dynnu'ch arian allan neu dalu'r balans sy'n weddill cyn y gallwch fwrw ymlaen.
- Gwnewch gopi o unrhyw hanes adrodd neu ddatganiad yr hoffech ei gadw o'r cyfrif eilaidd gan y bydd hwn yn cael ei golli ar ôl yr uno.
- Sicrhewch na fydd cyfanswm nifer y bobl a gaiff eu cyfuno drwy uno'r cyfrifon yn fwy na 15. Os yw'r cyfanswm cyfunol yn fwy na 15, bydd gwall yn digwydd, ac ni fydd yr uno'n cael ei gwblhau.
e.e. Mae gan Gyfrif A 2 o blant ac 1 aelod o staff yn weithredol arno. Penderfynwyd mai hwn fydd y prif gyfrif.
Dim ond 1 plentyn sydd gan Gyfrif B. Hwn fydd y cyfrif eilaidd.Ar ôl uno, bydd gan Gyfrif A 3 o blant ac 1 aelod o staff (cyfanswm o 4 unigolyn) a bydd Cyfrif B wedi'i ddileu.
Cyfuno eich Cyfrifon Rhiant
- Allgofnodwch o'r holl gyfrifon ParentPay.
- Mewngofnodwch i'r prif gyfrif (fel y'i diffinnir uchod).
- Defnyddiwch y dewis Ychwanegu plentyn
- Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur, dewiswch yr eicon Ychwanegu plentyn ar ochr chwith uchaf yr hafan.
- Os ydych yn defnyddio dyfais symudol dewiswch yr opsiwn dewislen o frig y sgrin ac yna dewiswch Ychwanegu plentyn.
- Yn y meysydd enw defnyddiwr a chyfrinair rhowch fanylion y cyfrif eilaidd.
- Dewiswch Parhau.
- Gwiriwch fod manylion y cyfrif sy'n cael ei uno yn gywir.
-
Dewiswch Cadarnhau.
Bydd pawb (plant, staff ac eraill) o'r cyfrif eilaidd yn cael eu trosglwyddo i'r prif gyfrif.
Gallwch ail wneud camau 1-7 ar gyfer pob pâr o Gyfrifon Rhiant yr hoffech eu huno.
Sylwadau
Erthygl wedi cau ar gyfer sylwadau.